Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor
Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o鈥檔 rhaglenni Ieithoedd Modern yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd 芒 ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.
Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Ieithoedd Modern
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein t卯m ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym d卯m ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Gwyliwch ein fideo
Helo a Llongyfarchiadau mawr am gael cynnig i astudio yma ym Mhrifysgol Bangor. Fy enw i yw Jonathan Ervine.
Dwi'n darlithio mewn Ieithoedd Modern. Mae'n ardal hyfryd i astudio fel myfyriwr Ieithoedd Modern mae gennych gyfleon i ddysgu llawer am ieithoedd a ble mae pobl yn siarad yr ieithoedd da chi yn astudio. Rydym yn defnyddio lot o adnoddau modern iawn.
Mae gennych gyfleoedd i gwrdd 芒 staff a myfyrwyr yn rheolaidd iawn, mewn ardal ag adran gyfeillgar. Rydym wir yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i Fangor yn fuan.
Cwestiynau Cyffredin
Pan fyddwch chi'n astudio ieithoedd, mae gennych chi wersi iaith sy'n canolbwyntion ar sgiliau fel siarad, ysgrifennu a chyfieithu. Hefyd, mae llawer o'n myfyrwyr yn astudio modiwlau diwylliannol am sinema, llenyddiaeth a hanes gwledydd lle mae pobl yn siarad yr ieithoedd perthnasol. Tu allan o'r dosbarth, mae yn gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffroes sy'n gysylltiedig ag ieithoedd ac yn rhoi cyfle i chi ddod i nabod myfyrwyr eraill.
Fel arfer, mae gan fyfyrwyr ieithoedd modern tua 9-12 awr o wersi bob wythnos. Mae yna ddarlithoedd a seminarau ag rydym yn gwneud y rhan fwyaf y dysgu mewn grwpiau bychain sy'n helpu i greu deialog rhwng myfyrwyr a staff ac yn rhoi cyfle i chi gofyn cwestiynau a chael adborth.
Ar fodiwlau Iaith, yn aml iawn mae yna arholiad ysgrifenedig ar ddiwedd y semester a hefyd aseiniadau eraill yn ystod y semester (cyflwyniadau, profion gramadeg, aseiniadau gwaith cartref). Ar fodiwlau diwylliannol, fel arfer bydd yna draethodau, gyflwyniadau, ac aseiniadau eraill yn ystod y semester.
Mae rhan fwyaf cyrsiau ieithoedd modern yn parhau am 4 blynedd, sy鈥檔 gynnwys blwyddyn dramor ym mlwyddyn tri. Yn ystod y flwyddyn dramor, mae myfyrwyr yn astudio mewn prifysgolion sydd efo cysylltiadau gyda ni, yn dysgu Saesneg mewn ysgolion, neu yn gwneud profiad gwaith. Yn aml iawn, maen nhw鈥檔 cael profiadau bythgofiadwy sy鈥檔 edrych yn wych ar eu CV.
Cwrdd 芒 rhai o'ch darlithwyr
Dr Sarah Pogoda
Rydym yn gymuned yma ym Mangor, ac rydym yn byw hynny bob dydd. Mae myfyrwyr a staff yn adnabod ei gilydd yn dda, oherwydd ein bod ni - o gymharu 芒 phrifysgolion eraill - yn adran gweddol fach. Rydym yn dysgu mewn grwpiau bach (sy鈥檔 arbennig o wir ar gyfer dosbarthiadau iaith) sy'n ein galluogi i wir adnabod pob myfyriwr, gwrando ar sut maen nhw鈥檔 hoffi dysgu ac addasu sut rydym ni鈥檔 dysgu i gyd-fynd 芒 hynny. Mae gennym ni hefyd agwedd greadigol iawn at ddysgu ym Mangor, ac mae llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol (e.e. trefnu a chynnal arddangosfa). Y tu allan i鈥檙 ystafell ddosbarth, rydym yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol hwyliog a chynhwysol, sy鈥檔 ein galluogi i ddod i adnabod ein gilydd hyd yn oed yn well.
Galluogi pobl i gysylltu 芒 phobl ar draws y byd, gan gyfoethogi eu profiad a'u rhagolygon trwy ddysgu sut y gallan nhw lunio eu dyfodol eu hunain trwy siarad sawl iaith a gweld gwir amrywiaeth diwylliannau. Mae astudio iaith a diwylliannau modern rywsut yn golygu plymio i isddiwylliant. Rydych chi'n dysgu am bobl, hanes, y celfyddydau a hyd yn oed economeg. Gyda'r wybodaeth hon a'r holl sgiliau grymuso rydych chi'n eu hennill gyda gradd mewn Ieithoedd a Diwylliannau Modern, rydych chi'n arfogi'ch hun i ddilyn bywyd unigryw a hynod.
Mae fy mywyd yn amlieithog, bob dydd. Rwy鈥檔 defnyddio Almaeneg, Saesneg a Chymraeg drwy鈥檙 dydd mewn sefyllfaoedd amrywiol, yn y gwaith neu y tu allan i鈥檙 gwaith. Rwy'n ceisio siarad yr iaith y mae'n well gan y person rwy'n siarad 芒 nhw ei defnyddio. Gan fy mod yn ymwybodol bod y ffordd yr wyf yn gweld y byd wedi ei ffurfio gan fy mynediad at wahanol ddiwylliannau a safbwyntiau byd-eang, rwy'n cadw meddwl agored wrth gwrdd 芒 phobl ac yn dysgu am eu gwerthoedd a'u dewisiadau bywyd. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ganfod safbwyntiau a chyfleoedd newydd, dro ar 么l tro, gan fy ngwneud yn berson hapusach.