System Rheoli Amgylcheddol
Mae nifer cynyddol o sefydliadau yn mynegi eu hygrededd amgylcheddol trwy weithredu System Rheoli Amgylcheddol (SRhA) achrededig. Nid yw Prifysgol Bangor yn eithriad. Mae gan y Brifysgol achrediadau ISO14001:2015 am reolaeth amgylcheddol, sy'n datblygu ein hymagwedd at:
- Gwellia'r Amgylchedd yn Barhaus
- Cydymffurfio â Deddfwriaeth Amgylcheddol
- Atal Llygredd
- Rhoi gwybod am faterion Amgylcheddol
Mae manylion pellach am ein System Rheoli Amgylcheddol ar y tudalen yma.
- Adroddiad Blynyddol Amgylcheddol: 2023/24 |2022/23 | 2021/22 | 2020/21 | 2019/20 | 2018/19 | 2017/18* | 2016/17* | 2015/16* | 2014/15* | 2013/14* | 2012/13* | 2011/12* | 2010/11*
* Mae cywiriadau cyfrifo yn yr ystod o 0.96% – 1.04% wedi’u nodi yn ffigurau carbon cyn 2018/19 o ganlyniad i ymchwiliadau i faterion data; fodd bynnag, nid yw’r addasiadau hyn wedi’u cymhwyso i’r adroddiadau cyhoeddedig cyn 2018/19.
Yn y tudalennau hyn byddwn yn rhoi gwybodaeth, fel y bydd yn dod ar gael, am ein System Rheoli'r Amgylchedd, am ein perfformiad amgylcheddol, ac am sut rydym yn symud ymlaen. Rydym yn croesawu sylwadau, awgrymiadau a barn a gellir eu hanfon drwy e-bost at environment@bangor.ac.uk.